Os ydych yn edrych am ardal wledig o fewn tafliad carrreg i’r arfordir, ond yn gyndyn o gefnu ar y byd modern, yna Sanclêr yw’r lle delfrydol. Wedi ei lleoli rhwng tref farchnad, fywiog Caerfyrddin a chanolfannau glan môr Sir Benfro, mae Sanclêr a Bancyfelin yn cynnig adnoddau penigamp i drigolion yr ardal a chroeso cynnes i ymwelwyr. Mae gan y dref gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog, lot o fusnesau lleol ac amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol, gyda gwir ysbryd cymunedol yn sylfaen gadarn i’r cyfan.
Mae’r map hwn yn dangos Llwybr Treftadaeth Tref Sanclêr. Datblygwyd ef i helpu i hyrwyddo hanes a diwylliant y Dref ac i greu canolbwynt i drigolion ac ymwelwyr i ddysgu mwy am yr amgylchedd lleol. Mae’r llwybr yn dilyn priffyrdd a llwybrau troed cyhoeddus, ac mae’n eich galluogi chi i ymweld â’r prif safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yn Sanclêr mewn ffordd strwythuredig.