Cafodd y Gofeb Rhyfel marmor hwn, sydd ar ffurf obelisg, ei godi’n wreiddiol yn 1921, i goffáu’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Mawr. Mae rhifyn o’r papur newydd The Welshman, wedi’r rhyfel, yn dangos bod Pwyllgor Cofeb Rhyfel Sanclêr wedi llwyddo, hyd hynny, i godi swm ardderchog o £400 tuag at y Gofeb Rhyfel. Mae’r un adroddiad yn datgan y byddai pentrefi cyfagos Llangynin, Bancyfelin a Llanddowror yn cael eu gwahodd i ymuno â’r Pwyllgor. Fodd bynnag, penderfynodd trigolion Llanddowror i gomisiynu eu plac Cofeb Rhyfel marmor eu hunain yn yr Eglwys yn Llanddowror.
Mae enwau’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Mawr, 1914 -1918, ar du blaen y Gofeb. O amgylch bôn yr obelisg ceir manylion ychwanegol am y gwŷr a fu farw yn y Rhyfel Mawr, a cheir chwe enw arall ar yr ochr dde.
Arhoswch am ennyd yn y fan hon i gofio a myfyrio am aberth y gwŷr a enwyd ar y Gofeb hon dros eu cenedl.
Cafodd oddeutu 10,000 o blant Llundain eu hymgilio o Ddwyrain Sussex a Chaint i hen siroedd Caerfyrddin, Penfro, Brycheiniog a Maesyfed ym 1940. Rhoddwyd croeso cynnes ar ddydd Sul y 23ain o Fehefin i 168 o blant o Ysgol Albion Street, Rotherhide, Llundain yn bennaf, gan dyrfa fawr ger Ysgol Gyngor Glasfryn, Sanclêr.