St Clears Town Council

Y Castell Normanaidd

Fe adeiladwyd Castell Sanclêr gan y Normaniaid tua 1100. Erbyn canol y 12fed ganrif, roedd yn ganolbwynt arglwyddiaeth Normanaidd, er iddo gael ei warchae, ei losgi a’i gipio gan y Tywysogion Cymreig yn 1153, 1189 a 1215. Fe’i hidlwyd i Owain Glyndŵr yn 1405 a’i adael am byth yn fuan wedi hynny.

Yn 1188, cosbwyd 12 saethwr o’r castell drwy eu hanfon ar Grwsâd fel cosb, am iddynt lofruddio Cymro ifanc o dras uchel.

Castell mwnt a beili yw Castell Sanclêr. Yn y llun, gwelir y mwnt yn anferth, sy’n codi i 12m – un o’r uchaf yng Nghymru. Yn wreiddiol, safai twr pren arno, ond darganfuwyd seiliau cerrig ar y mwnt sy’n awgrymu y codwyd twr cerrig yno mewn cyfnod diweddarach.

Mae cwrt neu feili y castell wedi cael ei wastadu erbyn hyn ac nid ydyw wedi ei gloddio gan archeolegwyr erioed. Dengys hen luniau gwrthgloddiau’r castell a oedd unwaith, o bosibl, yn sail i welydd cerrig (rhai a godwyd, efallai, gan William Marshal yr Ieuengaf pan ddaeth y castell i’w feddiant yn 1230). Gwelir cysgod hen adeiladau yn y llun hefyd, gan gynnwys y Neuadd Fawr, lle byddai’r gariswn wedi bwyta, yfed a chysgu, y ceginau, capel, ystablau a gweithdai.
Copyright - St Clears Town Council - All Rights Reserved - Website designed by w3designs
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram