O’r fan hon, gellir gweld golygfeydd godidog o’r ardal tu cefn i Stryd Fawr Sanclêr. Cafodd yr adran gyntaf, sy’n ysgubo i’r de o Gardde i lawr i Lôn yr Eglwys, ei nodi yn yr 17eg Ganrif yn “Lhwyd's Parochial Queries”, oherwydd ei bod yn cynnig tystiolaeth fod y dref ganoloesol wreiddiol yn fwy helaeth nag y tybiwyd yn flaenorol, yn cynnwys tystiolaeth “y bu hi’n Dref fawr”.
Mae’r llwybr yn dilyn cwrs Afon Cynin, ac ar hyd yr afon pan oedd y llanw’n uchel yn y 19eg Ganrif a chyn hynny, byddai cychod tendio a oedd yn cludo nwyddau yn dadlwytho oddi ar longau mwy a fyddai’n angori yn y porthladd, er mwyn trosglwyddo nwyddau i fyny i’r cei tu ôl Gwesty’r Swan.
Mae’n debyg y bu dwy groesfan rhydiadwy ar y darn hwn o’r afon islaw Pont y Pentre. Roedd y cyntaf hanner ffordd i lawr Ffordd Peillac, a arferai fod yn rhan o Lôn yr Eglwys ar hyd ffin ddwyreiniol Dol Yr Ynys, gan groesi’r afon i fferm Plas Y Gwêr ar y lan gyferbyn. Roedd yr ail groesfan, a elwir yn Rhyd y felin, yn croesi’r afon o ddiwedd Lôn y Prior ym mhen dwyreiniol Ffordd Peillac, ac roedd yn arwain at Fferm Pant-dwfn, sef man geni David Charles yr emynydd a ble’r oedd ei frawd, Thomas Charles, un o arweinyddion gwreiddiol y mudiad y Diwygiad Cymreig yn y 18fed Ganrif, yn byw hefyd.
Roedd Lôn yr Eglwys ar ochr ogleddol yr Eglwys yn arfer arwain at un o bedwar prif waith brics Sanclêr, a sefydlwyd yn y 19eg Ganrif. Roedd gweithfeydd brics Sanclêr yn cynhyrchu brics, teils a phibau draenio yn bennaf, ac yna byddent yn cael eu cludo i lawr yr afon.