Cafodd Ffordd Peillac ei enw oherwydd bod Sanclêr wedi’i threfeillio gyda Peillac yn Llydaw, Ffrainc. Cafodd y trefi eu trefeillio’n swyddogol yn 1997. Roedd yna gysylltiadau cryf gyda’r Normaniaid, fel y gellir gweld gan iddynt sefydlu’r Castell, y Priordy a’r Faestref yn y 12fed Ganrif.
Mae Ffordd Peillac yn mynd i gyfeiriad y de ac mae’n pasio trwy un o ddolydd afon hanesyddol Sanclêr. Roedd y dolydd yma’n arfer bod yn rhan o dir comin eang, a fwynhawyd gan fwrdeiswyr Sanclêr ers y 12fed neu’r 13eg Ganrif. Hyd nes dechrau’r 19eg Ganrif, roedd chwech o ddolydd afon yn dal i fod yn rhan o’r tir comin hwn, yn cynnwys Yr Ynys, Werglo Lloy, Dol y Porthfeiri, Prymus, Werglo Wharrey a Gors Fawr/Gors Fach. Yr Ynys oedd y tir isel y gellir ei weld ar ochr orllewinol y llwybr troed. Mae’n bosib y bu’n rhan o Werglo Lloy yn wreiddiol, a’i bod wedi cael ei henwi wedi iddi gael ei gwahanu wrth i gwrs yr afon newid.