Oes angen cymorth ariannol ar eich grŵp ar gyfer digwyddiad cymunedol?
Mae gan Gyngor Tref Sanclêr Cist Digwyddiadau Cymunedol i roi cymorth i grwpiau lleol sydd yn trefnu digwyddiadau cymunedol gyda’r bwriad i gael mwy o bobl leol yn rhan o weithgareddau cymunedol ac i ddenu ymwelwyr i’r ardal. Mae’r cyllid i’r gronfa yn dod o gyllideb y Cyngor.
Mae’r cronfa o £3,000 ar gael o fis Ebrill 2019 hyd at fis Mawrth 2020.
Bwriad y gronfa yw rhoi cymorth i ddigwyddiadau lleol a bychain, ar draws ardal Cyngor Tref Sanclêr, gan gynnwys Pwll Trap a Bancyfelin. Bydd y digwyddiadau o fudd i’r preswylwyr lleol ac yn cyfrannu at y gymuned ehangach ac at economi yr ardal.
Cymhwyster
Rhaid i'ch sefydliad:
• yn un gwirfoddol, cymunedol neu grŵp ffydd
• wedi’i gyfansoddi’n gywir
• gyda chyfrif banc
• yn agored ac yn hygyrch i’r gymuned
Mae’r gronfa yn cael ei rheoli gan y Pwyllgor Cymuned, Cyllid a Dibenion Cyffredinol Cyngor Tref Sanclêr, sydd yn cwrdd bob mis. Ar ôl i’r pwyllgor cwrdd bydd argymhellion yn cael eu gwneud i’r Cyngor Tref llawn am gymeradwyaeth. Bydd pob grŵp a roddir cais yn cael llythyr i gadarnhau canlyniad ei gais. Ystyrir pob cais yn unol â Polisi Dyfarnu Grantiau y Cyngor.