St Clears Town Council

Eglwys y Santes Fair Magdalen

Os ydych chi eisiau ymweld â’r Eglwys, gellir gofyn yn y Ficerdy am allwedd.

Ni wyddwn y dyddiad y cafodd ei sefydlu, ond rywbryd rhwng 1147 a 1184 OC daeth yn eglwys y Priordy Clywinaidd a gwasanaethodd fel eglwys y plwyf. Mae’n debyg fod y cyflwyniad i’r Santes Fair Magdalen yn adlewyrchu’r cysylltiedig gyda’r Priordy Clywinaidd yn Barnstaple.

Ni fu Priordy Sanclêr erioed yn sefydliad mawr – un Prior a dau fynach yw’r mwyaf a gofnodwyd. Cafodd ei diddymu yn 1414 a rhoddwyd ei heiddo, ei hincwm a’r hawl i benodi ficer i Goleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, yn 1446. Roedd Adeiladau’r Priordy’n ffinio â’r Eglwys ar ei hochr Dde, a chaiff yr ardal hon ei hadnabod fel “Maes y Prior”.

Caiff y cam cynharaf ei gynrychioli gan fwa cangell o’r 12fed Ganrif o ddyluniad Normanaidd Romanésg ac mae’n siŵr bod waliau gwreiddiol y corff yn gyfoesol â’r bwa. Mae’n debygol iawn fod y twr wedi cael ei ychwanegu yn y 14eg Ganrif.

Credir y daw’r bedyddfaen, a leolir ger drws y gorllewin, o’r 12fed neu’r 13eg Ganrif, sy’n dystiolaeth o swyddogaeth blwyfol gynnar yr eglwys. Cafodd y clychau a ddefnyddir ar hyn o bryd eu hail-gastio yn 1969 o’r clychau a ddefnyddiwyd yn wreiddiol ar ddiwedd y 17eg Ganrif.

Mae’r fynwent yn cynnwys llawer o arysgrifau diddorol ac enghreifftiau o sgiliau masiyniaid lleol. Cafodd y porth mynwent hardd, sef strwythur coeth mewn steil Gothig, ei godi yn 1911, yn fuan wedi i’r ficerdy newydd i gael ei adeiladu gyferbyn i’r Eglwys yn 1902.
Copyright - St Clears Town Council - All Rights Reserved - Website designed by w3designs
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram