St Clears Town Council

Gwybodaeth Llwybr Treftadaeth Tref Sanclêr

Click here to download and Print a Map and Info
Mae’r map hwn yn dangos Llwybr Treftadaeth Tref Sanclêr. Datblygwyd ef i helpu i hyrwyddo hanes a diwylliant y Dref ac i greu canolbwynt i drigolion ac ymwelwyr i ddysgu mwy am yr amgylchedd lleol. Mae’r llwybr yn dilyn priffyrdd a llwybrau troed cyhoeddus, ac mae’n eich galluogi chi i ymweld â’r prif safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yn Sanclêr mewn ffordd strwythuredig. Mae’n mynd â chi ar daith dywysedig o tua 1.5 milltir, sy’n cysylltu cymunedau hŷn a newydd Sanclêr. Mae taflen y llwybr ar gael yn lleol ac mae bob panel yn cynnwys Côd QR, i wella’r profiad trwy ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar wefan y Cyngor Tref. Ceir deuddeg panel i gyd, a lleolir y cyntaf ar gerflun Tollborth Beca ar Heol y Pentre. Rydym yn eich annog i ddilyn marcwyr ffordd y Blue Boar i Gei’r Dref a gobeithiwn yn fawr y byddwch yn mwynhau’r profiad.

Y baedd gwyllt yw arwyddlun Sanclêr, ond i’r Celtiaid Oes Haearn roedd yn symbol o gryfder. Mae’r ddelwedd yn dangos y baedd ffyrnig wedi’i addurno ag arfau, tarianau a chyrff rhyfelwyr Celtaidd. Roedd baeddod gwyllt yn arfer cael eu hela’n lleol a chaiff yr arfer hwn ei adlewyrchu yn ymddangosiad y Twrch Trwyth a’r helfa draddodiadol yn chwedl Culhwch ac Olwen. Gellir gweld delweddau o hyn ar y bont dros Afon Cynin ar Heol y Pentre. Yn y 19eg Ganrif, cafodd y baedd ei fabwysiadu fel arwyddlun ar Sêl Gorfforaethol Tref Sanclêr ac mae’n cynnwys cyfeiriadau at enwau lleoedd lleol.
Copyright - St Clears Town Council - All Rights Reserved - Website designed by w3designs
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram