Os ydych yn edrych am ardal wledig o fewn tafliad carrreg i’r arfordir, ond yn gyndyn o gefnu ar y byd modern, yna Sanclêr yw’r lle delfrydol. Wedi ei lleoli rhwng tref farchnad, fywiog Caerfyrddin a chanolfannau glan môr Sir Benfro, mae Sanclêr a Bancyfelin yn cynnig adnoddau penigamp i drigolion yr ardal a chroeso cynnes i ymwelwyr. Mae gan y dref gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog, lot o fusnesau lleol ac amrywiaeth eang o weithgareddau cymunedol, gyda gwir ysbryd cymunedol yn sylfaen gadarn i’r cyfan.