St Clears Town Council

Cofeb Ira Jones

James Ira Thomas “Taffy” Jones, D.S.O., M.C.,D.F.M.,M.M.
Ganwyd Ira Jones ar y 18fed o Ebrill 1896 ar Fferm Woolstone, Sanclêr, ac ymunodd â’r Tiriogaethwyr Cymreig, y 4ydd, tra’n gweithio yn Llundain ar ddechrau’r Rhyfel Mawr. Llwyddodd i gofrestru gyda’r egin Gorfflu Awyr Brenhinol, gan hyfforddi fel Gweithredydd Radio. Enillodd y Fedal Filwrol ym mis Medi 1916, am achub pum gynnwr clwyfedig pan ymosodwyd ar y maes awyr lle’r oedd yn gweithio. Cafodd ei gomisiynu ym mis Awst 1917 ac wedi cyfnod fel gynnwr / arsyllwr awyr, anfonwyd ef i Loegr i ddechrau hyfforddi i fod yn Beilot.

Cafodd ei dderbyn i’r enwog Sgwadron 74 (Teigr), ble daeth yn un o beilot-ymladdwyr uchaf eu sgôr yn y Rhyfel ac yn archbeilot Cymreig, ac yn y pen draw rhoddwyd rheolaeth y Sgwadron iddo. Mae ei grŵp o fedalau nodedig yn cynnwys Urdd Gwasanaeth Rhagorol, Croes Filwrol, Croes a Bar Hedfan Neilltuol a Medal Filwrol. Bu farw Ira Jones yn 1960 a chladdwyd ef ym mynwent Capel Cana ger Bancyfelin.

Dadorchuddiwyd y gofeb i’r 23 o wŷr Sanclêr a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. I’r dde i’r groes mae’r Capten Ira Jones, D.S.O., M.C., R.F.C., M.M., o’r Llu Awyr Brenhinol, a arweiniodd y seremoni gyda chymorth y Cyrnol Delme Davies-Evans, D.S.O. (yn ei lifrai ar y chwith).
Copyright - St Clears Town Council - All Rights Reserved - Website designed by w3designs
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram