St Clears Town Council

Taith Dreftadaeth Tref Sanclêr

Cliciwch yma i lawrlwytho ac argraffu map a gwybodaeth
Heritage Project comes togetherProsiect Treftadaeth yn dod at ei gilydd
Dyluniwr Phil Wait, Maer y Dref y Cyng. Jane Rees, Clerc y Dref Catrin Bradley a Chydlynydd y Prosiect y Cyng. Phil Rogers

Datblygwyd Llwybr Treftadaeth Tref Sanclêr i helpu i hyrwyddo hanes a diwylliant cyfoethog y dref ac i greu canolbwynt i drigolion ac ymwelwyr i ddysgu mwy am yr amgylchedd lleol. Mae’r llwybr yn dilyn priffyrdd a llwybrau troed cyhoeddus ac mae’n eich galluogi chi i ymweld â’r prif safleoedd o ddiddordeb hanesyddol yn Sanclêr. Mae’n mynd â chi ar daith dywysedig o tua milltir a hanner, sy’n cysylltu cymunedau hŷn a newydd Sanclêr mewn ffordd strwythuredig. Bwriad y daflen hon yw rhoi trosolwg bras o’r safleoedd o ddiddordeb ac i’ch darparu chi â map o’r llwybr fyddwch chi’n ei ddilyn. Ceir deuddeg panel deongliadol i gyd ac mae gan bob panel Gôd QR, sy’n darparu dolen i wybodaeth ychwanegol ar bob lleoliad. Crëwyd llwybr sain hefyd i wella’r profiad ac mae clustffonau ar gael o Ganolfan Grefftau Y Gât, yn ystod oriau agor.

Designer Phil Wait and Project Co-ordinator Councillor Phil Rogers.Medrwch ddilyn y daith trwy amser ac olrhain hanes Sanclêr, gan sylwi ar rai o’r uchafbwyntiau ar hyd y ffordd. Lleolir y panel cyntaf ar sgwâr yr Hen Farchnad, lle dewch chi o hyd i gerflun pren sy’n darlunio Terfysgwyr Beca, a cheir panel gwybodaeth sy’n disgrifio cysylltiadau’r dref gyda’u gweithgareddau yn y bedwaredd Ganrif ar bymtheg (1). Lleolir y ddau banel nesaf ar safle Cofeb Rhyfel y dref (2/3), lle rhestrir enwau’r rhai hynny a laddwyd yn y ddau Ryfel Byd, ynghyd â phlac i arwr lleol a pheilot-ymladdwr nodedig o’r Rhyfel Byd Cyntaf - Y Capten Ira Jones. Lleolir crynodeb a map o’r Llwybr ym maes parcio’r dref (4). Trwy ddilyn y llwybr dan y bont ar y ffordd ddeuol ar Ffordd Peillac, fe welwch ddau banel (5/6), un sy’n disgrifio’r bywyd gwyllt a geir ar y daith glan afon ddarluniadwy hon a’r llall yn adrodd hanes Sanclêr yn y Canoloesoedd. Byddwch yn ofalus, os gwelwch yn dda, oherwydd weithiau mae’r rhan hon o’r llwybr yn gorlifo pan fo’r llanw’n uchel.

Ym mhen dwyreiniol y llwybr, fe welwch Eglwys Y Santes Fair Magdalen (7), adeilad prydferth o’r 12fed Ganrif, sydd â bwa cangell o ddyluniad Normanaidd Romanésg. Gyferbyn i’r porth mynwent hardd hwn mae Neuadd y Dref (8), man cyfarfod rheolaidd y Gorfforaeth yn y 19eg Ganrif a lleoliad marchnad y dref yn y 1800’au. Gellir dod o hyd i safle’r Castell Tomen a Beili Normanaidd a thystiolaeth o amddiffynfeydd y Dref ym Manc y Beili (9/10), lle mae’r domen neu’r twmpath yn codi i 12 metr – un o’r talaf yng Nghymru. Daw’r llwybr i ben yng Nghei’r Dref, lle mae paneli (11/12) yn adrodd stori Porthladd Sanclêr, glan yr afon a’r Ceiau a oedd yn bodoli yn ystod y 19eg Ganrif ac a oedd yn dal i weithredu ar ddechrau’r 20fed Ganrif.

Rydym yn eich annog i ddilyn marcwyr ffordd y Blue Boar i Gei’r Dref, a gobeithiwn yn fawr y byddwch yn mwynhau'r profiad. Medrwch orffen y daith trwy ddychwelyd ar hyd eich llwybr gwreiddiol neu, os ydych yn dymuno dychwelyd ar y bws, mae gwasanaeth 222 ar gael – gwiriwch yr amserau ar yr amserlen a leolir ger y map yn y Maes Parcio yn lleoliad 4, os gwelwch yn dda. Os oes gennych glustffonau Llwybr Sain, cofiwch eu dychwelyd i Ganolfan Grefftau Y Gât, os gwelwch yn dda.

Diolchiadau

Mae Cyngor Tref Sanclêr yn ddyledus i Mr Don Benson am yr wybodaeth a’r ymchwil oedd yn hanfodol i greu’r Taith Dreftadaeth.
Rydym yn ddiolchgar i Steven John hefyd am ei wybodaeth am y Gofeb Ryfel yn Sanclêr, gweler http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire/st-clears-war-memorial/ i gael mwy o wybodaeth.

Copyright - St Clears Town Council - All Rights Reserved - Website designed by w3designs
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram