St Clears Town Council

Clwyd y Fôr-forwyn

Hanes Terfysgoedd Beca yw un o'r penodau mwyaf dramatig yn hanes Cymru. Ar adeg o argyfwng amaethyddol a thlodi affwysol yng nghefn gwlad, sefydlodd cymdeithasau o'r enw'r Cwmnïau Tyrpeg, rwydwaith o dollbyrth ar ffyrdd gwledig. Wrth fynd â'u gwartheg i'r farchnad neu gasglu calch fel gwrtaith i'w caeau, roedd rhaid i ffermwyr tlawd dalu tollau'n gyson.

Gwelwyd drwgdeimlad yn cynyddu dros nifer o flynyddoedd tan 1839 pan welwyd ffrwydriad o drais mewn tollborth newydd yn Efailwen yng ngogledd orllewin Sir Gaerfyrddin. Arweinydd yr ymosodiad oedd 'Beca' sef dyn yn gwisgo wig a dillad merch, wedi duo'i wyneb, ar gefn ceffyl gwyn ac yn chwifio cleddyf.

Pan gododd y prif Gwmni dollborth newydd ger Tafarn y Mermaid yn San Clêr ar 18 Tachwedd 1842, cychwynnwyd brwydr pedwar mis rhwng 'Beca' a'r awdurdodau. Roedd y gât yn ei gwneud hi'n amhosibl i draffig deithio drwy'r ardal heb dalu toll, felly fe'i tynnwyd i lawr gan 'Beca' a'i dilynwyr cyn pen oriau. Dinistriwyd Gât Mermaid am yr ail waith ar 12 Rhagfyr y flwyddyn honno wrth i saith deg i gant o ddynion, wedi'u gwisgo mewn dillad merched ac yn cario pladuriau a drylliau, gyrraedd y dref oddeutu hanner nos. Chwalwyd y gât newydd ar 20 Rhagfyr a dinistriwyd pedwaredd gât ym mis Ebrill 1843.

Roedd gan bob ardal ei 'Beca' ei hun a ddaeth yn ffigwr chwedlonol bron, ac sy'n parhau felly hyd heddiw – rhyw fath o Robin Hood Cymreig. Galwyd ar yr heddlu a milwyr i helpu i warchod y gatiau ond fel arfer, roedd 'Beca' a'i dilynwyr un cam ar y blaen. Daeth y protestiadau i ben ym 1844 ar ôl i Gomisiwn Archwilio y Llywodraeth arwain at ddiwygio’r Cwmnïau Tyrpeg, gan ymateb i nifer o gwynion y boblogaeth wledig.
Copyright - St Clears Town Council - All Rights Reserved - Website designed by w3designs
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram