St Clears Town Council

8th Mehefin 2021

Cau Ffordd Dros Dro

YNGHYLCH: CAU FFORDD DROS DRO: CROESFAN REILFFORDD SANCLÊR, Y B4299 HEOL YR ORSAF, SANCLÊR.

Mae cais wedi dod i law am gau ffordd dros dro sef croesfan reilffordd Sanclêr, ar y B4299, Heol yr Orsaf, 900 metr i'r gogledd o'r gyffordd â Heol y Pentre am bellter o 10 metr bob ochr i'r groesfan.

Mae angen cau'r ffordd i sicrhau diogelwch y cyhoedd tra bydd Network Rail yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol rhwng 22:00 dydd Llun, 5 o Orffennaf 2021 a 06:00 ddydd Mawrth 6 o Orffennaf, 2021.

Y ffordd arall ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de fydd mynd tua'r gogledd ar hyd y B4299 hyd at y gyffordd â'r U2050. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a theithio tua'r gogledd ar hyd yr U2050 hyd at y gyffordd â'r C2015. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a theithio tua'r gogledd-orllewin ar hyd yr C2015 hyd at y gyffordd â'r C3099.  Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a theithio tua'r de-orllewin ar hyd yr C3099 hyd at y gyffordd â'r C2001. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a theithio tua'r de-ddwyrain ar hyd yr C2001 hyd at y gyffordd â'r U2047. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a theithio tua'r de-ddwyrain ar hyd yr U2047 hyd at y gyffordd â'r B4299, Heol y Pentre. Wrth y gyffordd, troi i'r chwith a theithio tua'r dwyrain ar hyd Heol y Pentre hyd at y gyffordd â'r B4299, Heol yr Orsaf. Wrth y gyffordd, troi i'r dde a theithio tua'r gogledd ar hyd Heol yr Orsaf i ddychwelyd i fan sydd i'r de o'r man lle mae'r ffordd ynghau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd.

Amgaeaf gynllun (nid yw wrth raddfa) sy'n dangos y darn ffordd sydd i'w gau a'r ffyrdd eraill y gall teithwyr fynd arnynt.

Yn gywir,

Andrew Morgan, MCIHT, MSoRSA,

HA RSA Cert Comp,

Peiriannydd Traffig

Copyright - St Clears Town Council - All Rights Reserved - Website designed by w3designs
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram