St Clears Town Council

11th Rhagfyr 2023

Cronfa Adfywio Trefi Gweldig

Mae rhaglen Adfywio Canol Trefi Gwledig yn gronfa â'r nod o ddarparu cyfleoedd i adeiladau trefi marchnad gwledig i ychwanegu bywiogrwydd i'w hadeiladau. Nod y prosiect yw cefnogi economi ymwelwyr trefi marchnad wledig y sir, drwy greu strydoedd mawr croesawgar, bywiog sydd wedi'u hadfywio. Mae'r cynnig hwn ar gael fel rhan o raglen Deg Tref Cyngor Sir Caerfyrddin

Mae hon yn gronfa wedi'i thargedu ar gyfer safleoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd dynodedig ym mhob tref farchnad wledig. Gellir ystyried ceisiadau o safleoedd sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r ardal ddynodedig pob tref fesul achos pe bai'r prosiect yn cael effaith sylweddol. Cyfle i dderbyn cefnogaeth ariannol hyd at £2,000.

Pwy all wneud cais?

  • • Mae rhydd-ddeiliaid a lesddeiliaid yn gymwys.
  • • Bydd angen 20% o arian cyfatebol gan bob ymgeisydd

Pa fath o wariant sy'n gymwys?

  • • Addurno adeilad
  • • Goleuadau
  • • Canopïau (yn amodol ar ganiatâd cynllunio)
  • • Arwyddion dwyieithog newydd

Amserlen

  • • Dylid cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau erbyn 30 Ionawr 2024.
  • • Wedi derbyn llythr cynnig fedrwch ddechrau ar y gwaith.
  • Rhaid i'r prosiectau gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Medi 2024.
  • • Nodwch nad y'n bosib derbyn grant ar unrhyw wariant sydd wedi'i ymrwymo neu ei brynu cyn i'ch cais gael ei gymeradwyo'n llawn a'ch bod wedi derbyn llythr cynnig grant

Sut i gael cefnogaeth?

Cysylltwch â RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk i drafod eich cais prosiect gyda swyddog. Rhaid i bob cais sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r canllawiau a'r argymhellion a nodir yng Nghanllaw Dylunio Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin

Ffurflen Gais

Copyright - St Clears Town Council - All Rights Reserved - Website designed by w3designs
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram