Yn unol â'r targedau ailgylchu statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi bod yn adolygu'r modd y darperir casgliadau gwastraff y cartref yn y dyfodol ledled y sir.
Er mwyn cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2025, mae'n rhaid i ni gynyddu ansawdd a faint o ddeunyddiau ailgylchu y cartref sy'n cael eu rhoi allan inni eu casglu ac edrych ar ffyrdd o leihau faint o wastraff sy'n cael ei roi mewn bagiau du. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i leihau ein hôl troed carbon a darparu gwasanaeth mwy effeithlon a chost effeithiol i'n trigolion.
O ganlyniad, rydym wedi datblygu cyfres o gynigion a fyddai'n trawsnewid sut y caiff gwastraff y cartref ei gyflwyno a'i gasglu o dŷ i dŷ.
Rydym wedi lansio arolwg i gasglu adborth i'n helpu i lunio'r ffordd y caiff unrhyw newidiadau eu cyflwyno yn y dyfodol, ac wedi datblygu tudalen we sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am y cynigion. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Mercher, 7 Gorffennaf.








