St Clears Town Council

20th Mai 2021

HYSBYSIAD AM SEDD WAG AR GYFER SWYDD CYNGHORYDD DROS WARD SAN CLÊR O DREF SAN CLÊR

CYNGOR TREF SAN CLÊR 
  HYSBYSIAD AM SEDD WAG AR GYFER SWYDD CYNGHORYDD DROS WARD SAN CLÊR O DREF SAN CLÊR  HYSBYSIR drwy hyn yn unol ag Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 bod  sedd wag ar gyfer swydd Cynghorydd dros Ward San Cler o Gyngor Tref San Cler.     Cynhelir etholiad i lanw’r sedd a enwyd os rhoddir cais ysgrifenedig o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o ddyddiad yr Hysbysiad hwn gan ddeg etholwr o ardal etholiadol y Cyngor Tref a enwyd, i’r Prif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Bloc 4,Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin, sef y Swyddog Priodol o’r Cyngor Sir.     Oni wneir cais am etholiad fel y nodwyd eisoes, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Tref yn unol a darpariaethau Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 2006.   Rhaid cyflwyno cais am etholiad, a lofnodwyd gan ddeg etholwr, yn Bloc 4, Parc Myrddin, Waun Dew, Caerfyrddin  SA31 1HQ ar unrhyw ddydd ar ol dyddiad yr Hysbysiad hwn, ond heb fod yn ddiweddarach na Dydd Llun, 14eg Mehefin, 2021.  Os gwneir cais am etholiad, cynhelir yr etholiad o fewn trigain diwrnod o ddyddiad yr Hysbysiad hwn..       DYDDIEDIG y 24ain Mai, 2021.         
Arwyddwyd C. Lloyd-Jenkins Signed (Clerc y Cyngor) (Clerk of Council)
  
Copyright - St Clears Town Council - All Rights Reserved - Website designed by w3designs
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram