Cyhoeddwyd y Cynllun Adfer a Thwf Economaidd drafft ar gyfer Sanclêr fel rhan o Fenter Deg Tref Cyngor Sir Caerfyrddin ac mae ar gael i weld ac i gyflwyno sylwadau trwy'r wefan ryngweithiol a geir yma https://stclears.carmarthenshire-towns.info
Mewn ymateb i COVID-19, mae'r Cyngor Sir wedi sefydlu adnoddau sylfaenol i gefnogi adferiad a thwf trefi gwledig a bydd ystod o fentrau a chymorth busnes newydd ar gael a darperir manylion pellach yn y cynllun. Mae hwn yn gyfle pwysig ar gyfer busnesau lleol a'r gymuned ehangach i wneud sylwadau trwy'r wefan erbyn 19eg Mawrth 2021. Mae copïau caled o'r cynllun ar gael i'w gweld yn Swyddfa Bost Sanclêr ar gyfer y rhai heb fynediad i'r we.








