Mae canolfan frechu ‘gyrru trwodd’ yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd yn Sanclêr gyda Meddygfa’r Coach & Horses yn paratoi ar gyfer derbyn y cyflenwad cyntaf o frechlynnau yn y dyddiau nesaf.
Cefnogir y gwaith gan Gyngor Tref Sanclêr, sydd yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda dyletswyddau marsial maes parcio i sicrhau diogelwch ac effeithlonrwydd y broses.
Bydd yn ofynnol i wirfoddolwyr gynorthwyo am hyd at 3 awr ar y tro.
Bydd y rôl yn yr awyr agored a fydd yn golygu bod allan yn tywydd garw ar adegau.
Bydd gweithdrefnau arferol Covid-19 yn berthnasol o ran gorchuddion wyneb, glanweithdra a phellter cymdeithasol a darperir yr holl offer angenrheidiol a briff llawn.
Ar hyn o bryd nid yw’n glir pryd y bydd y broses hon yn dechrau a sut y bydd y broses yn datblygu, bydd yn ddibynnol ar adnoddau a chyflenwad. Bydd arweiniad yn dod gan y feddygfa.
Ar hyn o bryd rydym yn casglu rhestr o wirfoddolwyr a fydd yn barod i helpu. Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch Clerc y Dref clerk@stclearstowncouncil.co.uk neu defnyddiwch yr adran cysylltu â ni ar y wefan hon, gan adael eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt *.
Yna bydd y manylion hyn yn cael eu hanfon at y Cynghorydd Ian Richards, Maer y Dref sy'n cydlynu’r ymarferiad gyda'r feddygfa.
* Defnyddir yr holl wybodaeth a gesglir at ddibenion yr ymarfer hwn yn unig a'i dinistrio pan fydd yr ymarfer wedi'i gwblhau. Trwy wirfoddoli rydych yn cydsynio i'ch manylion cyswllt gael eu cadw am y cyfnod gofynnol, ond gellir eu tynnu, ar gais, ar unrhyw adeg.








