Mae Cyngor Tref Sancler yn falch o gyhoeddi mai’r Cynghorydd Ian Richards yw Maer y Dref a Chadeirydd y Cyngor ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2020/21. Enwebwyd y Cynghorydd Richards yn Faer yn dilyn y gefnogaeth ymroddedig i'r gymuned a ddangoswyd ganddo yn ystod y pandemig coronafirws. Llongyfarchiadau i'r Cynghorydd Richards ar ei benodiad!
Y Ddirprwy Faer / Cadeirydd y Cyngor yn ystod y flwyddyn fydd y Cynghorydd Keith Major. Fel un o'r aelodau sydd wedi bod ar y Cyngor am y cyfnod hiraf, mae Cynghorydd Major yn cynnig cefnogaeth barhaus a gwerthfawr i'r Cyngor, yn enwedig yn ei rolau diweddar fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cymuned, Cyllid a Phwrpas Cyffredinol. Bu Cynghorydd Major yn Faer yn 2006/07. Llongyfarchiadau iddo fe!








