Mae'r Cyngor Tref wedi ymrwymo i gefnogi'r holl drigolion yn ein hardal yn ystod yr amser anodd hwn.
Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin
i baratoi cynllun i weithredu cefnogaeth briodol i'r rhai mewn angen.
Rydym yn gwerthfawrogi y bydd amrywiaeth o bryderon a bydd angen help a
chyngor gan aelodau ein cymuned a byddwn yn ymdrechu i wneud beth bynnag sydd
ei angen i'ch cefnogi.
Rhagwelir y cytunir ar gynllun tua chanol yr wythnos nesaf a bydd manylion
pellach ar gael trwy'r wefan hon.
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw anghenion, dim ots pa mor fach ydynt,
cysylltwch â'r Clerc ar 07468 456077 a byddwn yn gwneud ein gorau glas i
gynorthwyo.








