Yr wyf yn ymwybodol o'r teimladau lleol cryf ynghylch cau llwybr troed Ffordd Peillac dros dro ac yr wyf am gynnig rhywfaint o eglurhad ynglŷn â'r pwnc hwn.
Penderfynwyd cau'r llwybr oherwydd ei gyflwr peryglus, sydd wedi dirywio bellach oherwydd llanw uchel diweddar.
Cyfrifoldeb Cyngor Sir Gaerfyrddin yn unig yw'r penderfyniad, arolygon parhaus a chynlluniau ar gyfer y gwaith, ac nid y Cyngor Tref.
Fel Cyngor Tref, rydym yn ymdrechu i gynnal trafodaethau â'r Cyngor Sir o ran gwaith ac amserlenni a byddwn yn ymdrechu i gyhoeddi diweddariadau o'r fath ar wefan Cyngor Tref Sanclêr.
Cofiwch, ein bod ninnau hefyd am weld y llwybr, sy'n cael ei ddefnyddio a'i fwynhau gan lawer, yn ailagor a'u droedio'n ddiogel. Byddwn yn trosglwyddo eich pryderon ac yn bwrw ymlaen gyda chyswllt pellach â'r Cyngor Sir i adnewyddu'r sefyllfa.
Ian Richards
Maer Tref Sanclêr








