St Clears Town Council

Chwefror 19, 2021

Swydd Wag: Clerc y Dref

Cyngor Tref Sanclêr

CLERC Y DREF

Graddfeydd Cyflog NJC LC3 (33-36) £36922 - £39880 (£24947-£26946 pro-rata - 25 awr yr wythnos)

Gofynnir am geisiadau oddi wrth ymgeiswyr addas ar gyfer y swydd o Glerc i’r Cyngor Tref.

Clerc y Cyngor fydd Swyddog Priodol y Cyngor ac felly mae o dan ddyletswydd statudol i gyflawni'r holl swyddogaethau, ac i gyflwyno neu gyhoeddi'r holl hysbysiadau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith gan Swyddog Priodol awdurdod lleol. Bydd y Clerc yn gwbl gyfrifol am sicrhau bod cyfarwyddiadau'r Cyngor mewn cysylltiad â'i swyddogaeth fel Awdurdod Lleol yn cael eu cyflawni. Disgwylir i'r Clerc gynghori'r Cyngor ar bolisïau cyffredinol, a datblygu polisïau i'w dilyn mewn perthynas â gweithgareddau'r Awdurdod a chynhyrchu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer gwneud penderfyniadau effeithiol a gweithredu pob penderfyniad yn adeiladol. Bydd y person a benodir yn atebol i'r Cyngor am reoli ei holl adnoddau'n effeithiol a bydd yn adrodd i’r Cyngor yn ôl yr angen. Y Clerc fydd y Swyddog Ariannol Cyfrifol ac yn gyfrifol am holl gofnodion ariannol y Cyngor a gweinyddu ei gyllid yn ofalus. Y Clerc fydd yn gyfrifol am gynllun iaith Gymraeg y Cyngor.

Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Iaith Gymraeg ac mae sgiliau dwyieithog yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

I gael rhagor o wybodaeth neu becyn cais, ewch i stclearstowncouncil.co.uk/jobs neu cysylltwch ag Emma Smith ar 07468 456077 i gael sgwrs anffurfiol neu e-bost clerk@stclearstowncouncil.co.uk

Ceisiadau i'w cyflwyno drwy e-bost clerk@stclearstowncouncil.co.uk erbyn 5pm ddydd Llun 8 Mawrth 2021.

Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn cychwyn 22 Mawrth 2021.

Copyright - St Clears Town Council - All Rights Reserved - Website designed by w3designs
linkedin facebook pinterest youtube rss twitter instagram facebook-blank rss-blank linkedin-blank pinterest youtube twitter instagram