Ar sail iechyd a diogelwch, gwnaethpwyd penderfyniad i gau Llwybr Glan yr Afon Sanclêr (Ffordd Peillac) dros dro. Oherwydd erydiad glan yr afon a llifogydd parhaus mae'r llwybr yn anniogel a bydd yn cael ei bario nes bydd rhybudd pellach. Mae cynlluniau ar waith i ailagor y llwybr ar ôl dod o hyd i ateb cynaliadwy. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio'n agos gyda Chyngor Tref Sanclêr i wella'r llwybr a ddefnyddir yn rheolaidd, ar gyfer pobl y dref a'r cymunedau cyfagos.








